Llwyfan digidol ar gyfer ymchwilwyr doethurol. Mae’n darparu pecyn cymorth o adnoddau i helpu i lywio astudiaeth ddoethurol/y daith ddoethurol a thrwy wneud hynny galluogi ymchwilwyr doethurol i feithrin ymdeimlad o lesiant iach.

O fewn RWC fe welwch adnoddau i’ch helpu i lywio llawer o wahanol elfennau o’r daith ddoethurol. Mae enghreifftiau’n cynnwys gweithio gyda’ch goruchwylwyr, rheoli’ch amser, a chadw’ch cymhelliant. Cedwir y rhain o dan y categorïau y gallwch ddod o hyd iddynt ar yr Hafan.

Nodwyd y categorïau gennym drwy ymgynghori â llenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid a thrwy weithdai gyda myfyrwyr doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru. Sicrhaodd hyn fod y pynciau yn berthnasol ac yn cael eu dewis gydag ymchwilwyr doethurol ar gyfer ymchwilwyr doethurol.

Fe wnaethom nodi adnoddau pwrpasol i boblogi’r gwahanol feysydd pwnc. Fe welwch amrywiaeth o gyfryngau gwahanol fel fideos, podlediadau, erthyglau cyfnodolion, adnoddau gwe mynediad agored i gefnogi eich anghenion.

Oedd.

Bu ymchwilwyr doethurol o brifysgolion ar draws Cymru yn ymwneud â chreu adnoddau. Mae Storïau myfyrwyr yn cynnig adroddiadau trwy brofiad o astudiaeth ddoethurol gyda phwyslais ar y mathau o heriau dan sylw, yr hyn y mae unigolion wedi’i wneud i’w trafod, a’r hyn y maent yn ei wneud i ymlacio. Gwnaeth rhai cyfranogwyr fideos am eu profiadau neu ddiwrnod cyffredinol yn yr hanesion bywyd. Mae eraill wedi sefydlu grwpiau penodol.

Gallwch. Mae teimlo ymdeimlad o berthyn a chymuned yn cael ei adrodd yn aml fel rhan bwysig o fod yn fyfyriwr doethurol. Mae gennym adran benodol ar gyfer Cymuned lle byddwch yn dod o hyd i gyfleoedd i gysylltu â chymheiriaid. Mae’r rhain yn cynnwys cymryd rhan mewn grŵp ar-lein; ymuno â sesiwn eistedd i lawr ac ysgrifennu rheolaidd, lle gallwch gysylltu ag eraill wrth weithio ar y ddoethuriaeth; a hyd yn oed arweiniad os dymunwch sefydlu eich grŵp eich hun.