Rhwydweithiau cymorth proffesiynol yw’r rhwydweithiau rydych chi’n eu hadeiladu gyda chydweithwyr neu weithwyr proffesiynol eraill yn eich maes pwnc. Gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyfleoedd dysgu, cydweithio a chyflogaeth. Gall cysylltu ag ymchwilwyr doethurol eraill hefyd eich galluogi i rannu profiadau a theimlo’n llai unig ar eich taith.