Mae gwahaniaethau a gwrthdaro yn rhan naturiol o ddysgu ochr yn ochr ag eraill; fodd bynnag, mae’n bwysig mynd i’r afael â’r rhain yn uniongyrchol ac yn gyflym. Gallai cael cipolwg ar eich arddull gwrthdaro eich hun eich helpu os bydd y sefyllfaoedd hyn yn codi. Cyfeiriwch at y darn hwn o The Wellbeing Thesis am ragor o wybodaeth. 

video resource

Yma mae myfyrwyr doethurol yn rhoi cyngor ar sut y gwnaethant fynd i'r afael â gwrthdaro a heriau yn ystod eu hastudiaethau.

Mae Laurajane, academydd yn Awstralia, yn siarad am sut i ymdopi ag anghytundebau deallusol a sut y bu iddi wynebu tensiynau yn ystod ei thaith ddoethurol bersonol ei hun.