Syndrom dynwaredwr yw pan fyddwch chi’n teimlo fel rhywun o’r tu allan. Fel arfer mae’n ganlyniad i fethu adnabod eich llwyddiannau eich hun a phriodoli eich enillion i ffactorau allanol (fel ‘lwc’ neu rwydweithio). Mae hefyd yn golygu ofn methu ag ailadrodd canlyniadau llwyddiannus a chael eich amlygu fel ‘twyllwr’.