Gall eich doethuriaeth fod yn daith hir a phrysur. Tra byddwch yn wynebu heriau ar hyd y ffordd, cofiwch geisio ei fwynhau. Mae yna hefyd lawer o gyfleoedd ehangach yn gysylltiedig â doethuriaeth, er enghraifft cynadleddau a theithio, cyhoeddi erthyglau, gwirfoddoli, addysgu, a chwrdd â phobl newydd. Myfyriwch ar yr elfennau cadarnhaol rydych chi wedi’u profi. Cofleidiwch a mwynhewch y rhain.