Mae oedi yn hynod o gyffredin – nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Mae’n bwysig maddau i chi’ch hun am oedi o bryd i’w gilydd, oherwydd weithiau dyma ffordd eich ymennydd o ddweud wrthych chi am gymryd seibiant am y tro, a pheidio â brysio i mewn i’r dasg nesaf. Fodd bynnag, gall mabwysiadu strategaethau fel y rhai a drafodir yn yr adran hon eich galluogi i deimlo fel eich bod yn symud ymlaen ac yn symud i’r cyfeiriad cywir.