Gallai fod yn bosibl ac yn ddefnyddiol cymryd peth amser i ffwrdd o’ch doethuriaeth – rhywbeth y cyfeirir ato’n aml fel ‘toriad astudiaethau’ neu ‘seibiant astudiaethau’. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os bydd eich amgylchiadau bywyd yn newid (boed yn arian, ystyriaethau teuluol, salwch). 

Os ydych yn ystyried seibiant astudiaethau, gwiriwch fod y rheoliadau sy’n llywodraethu eich rhaglen yn caniatáu hyn (er enghraifft, nid yw rhai fisas rhyngwladol yn caniatáu hynny.) Am ragor o wybodaeth a chymorth, holwch eich sefydliad eich hun beth yw eu polisïau a’u harweiniad ar gyfer cymryd toriad astudiaethau. 

Yn y bennod hon o'r PhD Life Raft, mae Chrissi yn sôn am ei phrofiad o gymryd toriad astudiaethau.