Gall anifeiliaid anwes fod yn gefnogaeth emosiynol ac yn ffynhonnell cymhelliant. Nid yw hyn yn golygu y dylai pob myfyriwr doethurol fynd allan a chael anifail anwes iddo’i hun – ond mae’n bwysig gwneud y gorau o’r holl gymorth sydd ar gael i chi.

Mae Gayle yng nghamau olaf ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yma mae hi'n myfyrio ar sut mae mynd â'i chŵn am dro yn fuddiol: "Mae'r ddelwedd o fy nau gi, Olive ar y chwith a Rosa, ci bach ar y dde. Dw i'n defnyddio'r ddelwedd hon i gynrychioli fy iechyd meddwl a’m llesiant meddyliol. Dw i wedi dod i gydnabod y gall fy iechyd meddwl a’m llesiant meddyliol fod yn alluogwr neu’n rhwystr. Yn fy achos i, mae awyr iach, gofod a gweithgaredd yn eithriadol o dda ar gyfer fy iechyd meddwl a’m llesiant meddyliol ac mae'r angen i fynd â'r cŵn am dro wedi galluogi gwell cynnydd o lawer gyda fy PhD. Dw i'n defnyddio'r amser hwn i weithio trwy fy nysgu presennol a chaniatáu i'm meddwl gynhyrchu syniadau a chynlluniau. Dw i bob amser yn gallu dychwelyd at fy ngliniadur yn ffres ac wedi fy adfywio ac yn llawer mwy cynhyrchiol.