Mae’r astudiaethau achos isod yn cynnig enghreifftiau o gymunedau myfyrwyr PhD ym Mhrifysgolion y DU.

Mae’r erthygl hon gan Kiu Sum, o The Journal of Educational Innovation, Partnership and Change, yn cyflwyno astudiaeth achos am ‘the PhD Society’, cymuned a arweinir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Westminster.

Mae’r astudiaeth achos hon o Brifysgol Sussex yn cynnig myfyrdodau ac awgrymiadau ar sut i sefydlu grŵp cymorth galwadau fideo ar-lein ar gyfer myfyrwyr doethurol. Mae'n trafod dull a arweinir gan gymheiriaid, yn seiliedig ar bedwar aelod o bob grŵp. Gall ddarparu fformat y gallech fod am ystyried ei fabwysiadu yn eich prifysgol eich hun.