Ffeindio fy ffordd

Pan dderbyniais le yn y brifysgol i astudio PhD, doeddwn i ddim yn nerfus am yr ochr academaidd. Wna i ddim bod mor feiddgar a dweud nad ydw i wedi cael trafferth yn academaidd erioed; ond wrth feddwl yn ôl i nosweithiau digwsg a boreau pryderus, maen nhw’n ymwneud llawer mwy ag ochr gymdeithasol y brifysgol. Mae gen i’r hyn a elwir bellach yn anhwylder sbectrwm awtistiaeth ond arferid cyfeirio ato fel Syndrom Aspergers. Yn gyffredinol, ystyrir bod fy anghenion cymorth yn isel. Roeddwn i’n gwneud yn dda yn yr ysgol ac, er nad ydw i’n un cymdeithasol iawn, rydw i wedi dysgu digon o sgiliau cymdeithasol i guddio fy nodweddion awtistig mwy amlwg.

Fodd bynnag, mae cymdeithasu yn dal i achosi problemau mawr. Mae mynd at bobl nad ydw i’n eu hadnabod yn dal i’m dychryn yn llwyr, a hyd yn oed gyda phobl rwy’n eu cwrdd mewn digwyddiadau neu fodiwlau, gall fod yn anodd symud heibio sgwrs arwynebol i ffurfio perthynas ddyfnach. Roedd hyn yn anodd wrth astudio ar gyfer fy ngradd, ond dwysáu mae’r broblem gyda PhD. Y pethau sy’n apelio am astudio ar gyfer doethuriaeth yw’r pethau sydd hefyd yn ei gwneud mor anodd dod o hyd i gymuned. Rwy’n gallu pennu fy amserlen a’m blaenoriaethau fy hun am nad ydw i’n gweithio gyda myfyrwyr eraill. Os ydw i eisiau cyfarfod pobl a bod yn fwy o ran o gymuned y myfyrwyr, mae’n rhaid i mi wneud hynny fy hun – ac mae’n gam brawychus.

Ond digon o edrych ar yr ochr ddu. Dyna’r her i mi a llawer o ymchwilwyr Niwroamrywiol eraill. Y cwestiwn gwirioneddol yw: sut rydw i’n gweithio i’w datrys? Y cyngor symlaf yw’r unig gyngor y gallaf ei roi, a’r anoddaf i’w wneud: rhaid i chi fynd allan a chymdeithasu. Mi fyddai pawb yn hoffi clywed bod ‘na dric hud a lledrith, rhyw algorithm y gallem ei weithredu, i wneud yr holl beth yn haws. Ond y gwir anodd yw nad oes tric. Yr un peth sydd wedi fy helpu ydy ail-werthuso sut rydw i’n mynd i’r afael â’r sefyllfaoedd yma. Rwy’n wahanol i bobl eraill. Mae sefyllfaoedd cymdeithasol yn anodd. Gan gadw hynny mewn cof, rwy’n dewis bod yn fwy caredig gyda mi fy hun. Rwy’n mwynhau’r buddugoliaethau ar yr adegau rwy’n mynd i gyfarfod cymdeithas neu gynhadledd ond yn derbyn y byddaf weithiau yn cael hynny’n anodd. Rwy’n dewis cymdeithasau yn seiliedig ar fy niddordebau ac yn ymuno â chymdeithasau sy’n fwy addas ar gyfer fy anghenion. Yn olaf, rwy’n atgoffa fy hun fy mod i yma am dair blynedd. Does dim angen i mi gyfarfod pob ffrind fydd gen i am byth nac ymuno â phob digwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal. Gallaf gymryd fy amser a gweithio ar bethau’n raddol, gan wybod y byddaf yn y pen draw ar fy ennill.