Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru’n cynnig adnoddau i’ch helpu i ddatblygu gwydnwch wrth symud ymlaen drwy eich doethuriaeth. Rydym yn tynnu ar waith Kokotsaki (2023 t t175-6) i gael diffiniad o wydnwch yn y cyd-destun hwn:

‘Ar lefel astudiaeth ddoethurol, cysyniadir gwydnwch fel “acquisition of skills that enable students to become more assertive, confident, resilient, persistent and resolute in determining how to progress their Ph.D. while balancing their other commitments” (Mowbray & Halse, 2010, t. 657). Mae gwydnwch yn yr ystyr hwn yn gysylltiedig â gofynion sefydliadol a gwaith ond mae hefyd yn cwmpasu ‘ymrwymiadau eraill’ megis materion teuluol neu bersonol, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio amrywiaeth o heriau posibl y mae angen i’r myfyriwr fynd i’r afael â hwy.’

Mae ein hadnoddau’n ymwneud â’r holl feysydd a amlinellir yn y darn hwn o Kokotsaki (2023). Os ydych chi eisiau darllen y papur yn llawn cliciwch yma