Croeso i ‘Grwpiau Cymunedol’ Llesiant Ymchwilydd Cymru.
Mae’r grwpiau hyn wedi’u sefydlu i ddarparu gofod cynhwysol a chroesawgar lle gall Ymchwilwyr Doethurol gymdeithasu, rhannu profiadau, a meithrin cysylltiadau â myfyrwyr eraill.
Drwy ymuno â’r grŵp hwn, rydych yn cytuno i:
- Trin pob cyfranogwr â pharch a charedigrwydd.
- Bod yn gwrtais, cynhwysol a chefnogol i fyfyrwyr Ymchwil Doethurol eraill.
- Parchu preifatrwydd cyfranogwyr eraill a pheidio â rhannu gwybodaeth bersonol na thrafodaethau y tu allan i’r grŵp heb ganiatâd.
- Rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad amhriodol neu sarhaus i’r aelod o staff y brifysgol sy’n rhedeg y grŵp (sylwer, nid hwn yw arweinydd y grŵp – gweler manylion cyswllt y staff isod).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y grwpiau, cysylltwch â [rhowch enw cyswllt yn eich prifysgol.]
Cofiwch, er bod prosiect Llesiant Ymchwilydd Cymru yn anelu at gefnogi llesiant Ymchwilwyr Doethurol, ni ddylid ei ystyried yn lle cymorth cymwys. Os ydych chi’n profi anawsterau iechyd meddwl, mae’n syniad da ceisio cymorth cyn gynted â phosibl.
Mae manylion y gwasanaethau llesiant a/neu gwnsela canolog yn eich prifysgol ar gael yma. Os ydych yn cael problemau a’ch bod angen cymorth, cysylltwch â nhw.