Y Menopos! Dyna ni, yr wyf wedi ei ddweud: Menopos, menopos, menopos. Iawn, mae hynny wedi gosod y naws ar gyfer yr erthygl hon ac o ystyried y rhai ohonoch sydd â thueddiad gwan eich cylla y cyfle i glicio ar hap ar yr eicon ‘yn ôl’ i ddychwelyd i le diogel; i’r rhai ohonoch sy’n dal yma, croeso.

Mae bod yn ganol oed fel myfyrwraig PhD yn llawn heriau. Cyn i mi ddechrau fy PhD, gwnes fy ymchwil. Dw i’n cofio chwilota blogiau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw wybodaeth y gallwn i ddod o hyd iddo am y garfan PhD bresennol yn fy mhrifysgol ddewisol. A fydden nhw i gyd yn ymchwilwyr doethurol ifanc, cymdeithasol, cyffrous, neu a fydden nhw’n debycach i mi, gyda gwallt llwyd, sbectolau yn eistedd ar flaen fy nhrwyn fel y gallwn weld o bell a darllen ar yr un pryd? Dychmygwch fy arswyd o ddod o hyd i bostiad Twitter o fyfyrwyr PhD presennol yn ddelwedd gyforiog o bethau ifanc disglair. Roeddent yn dathlu viva llwyddiannus un o’u cymheiriaid. Eisteddent yn llawen o amgylch bwrdd mewn bar a oedd yn edrych fel bar swnllyd, gorlawn, gan godi eu gwydrau llawn swigod. Roedd eu hwynebau yn ifanc, yn llawn cyffro ac yn llawn bywyd, gan fy llenwi â braw canol oed.

Felly, cyrhaeddodd fy niwrnod cyntaf ar y campws ym Met Caerdydd. Dw i’n cofio gwingo’n nerfus. Roedd fy nghyd-ymchwilwyr doethurol yn eistedd o’m cwmpas. Wrth gwrs, cafwyd y cyflwyniadau gorfodol: enw a disgrifiad byr o’n prosiectau ymchwil. O’m rhan i, traddododd pawb arall y wybodaeth hon mor huawdl a deallus. Eto i gyd, pan ddaeth fy nhro i, gallwn deimlo’r panig, y gwres yn codi o flaenau fy nhraed fel coelcerth wyllt, yn llosgi trwy fy mrest ac yn hylosgi rhwng fy llygaid. Roedd y pwl o wres poeth hwn yn fflamio trwy’r gwlân cotwm yn fy ymennydd, gan adael pelen ffibr fyglyd. Wrth i mi gymysgu rhai brawddegau’n parablu’n ffwndrus ac yn siarad yn annelwig am yr hyn y gallwn ymchwilio iddo, gallwn deimlo fy ngruddiau yn gochlyd ac yn boeth fel pocer. Gwych, dechrau da, meddwn wrth roi llond pen i mi fy hun. Gan fy mod yng nghanol fy mhumdegau a’r menopos (ie, dywedais y gair eto) ers rhai blynyddoedd, dw i wedi hen arfer â’r profiad hwn. Eisiau bod mor cŵl â chiwcymbr? Yna peidiwch â bod yn fenyw canol oed yn mynd trwy’r menopos. Fodd bynnag, dim ond prin begwn y rhewfryn yw hyn (deall?).

I ddechrau, gall cyfarfodydd goruchwylio fod fel taith gerdded trwy goelcerth danllyd Dantes. Peidiwch â’m camddeall; gwn fod goruchwyliaeth yn hwyl i bob myfyriwr doethuriaeth. Ond ceisiwch gymryd pen llawn sbageti canol oed. Yna, arhoswch i’ch goruchwyliwr ofyn cwestiwn i chi, ac mae’ch corff yn tanio fel llosgydd Bunsen sy’n gollwng, gan losgi’r sbageti ac unrhyw beth arall yn ei lwybr gwybyddol. Fodd bynnag, nid y pyliau o wres a achosir gan straen yn unig mohono. Os gallaf ddarparu cyfatebiaeth, bydd eich ymennydd menopos yn mynd yn debyg i fwrdd du wedi’i sialcio â nodiadau (gallwch chi ddweud fy oedran yma, bwrdd du? Nid bwrdd gwyn rhyngweithiol?). Rydych chi’n mynd â’r bwrdd du gyda chi ble bynnag yr ewch. Ond pan fydd eich goruchwyliwr yn gofyn cwestiwn i chi, mae’r niwronau menopos ffyrnig hynny’n sgwrio’r sialc i gyd allan. Gwag. Dim byd. Nada. Zilch. Gwych. Darllenais erthygl ddoe a oedd yn ddefnyddiol ar gyfer fy ymchwil. A allaf ei gofio heddiw? Na allaf.

Ar ben hyn, mae lefelau plymio estrogen yn annog magu pwysau wrth i fàs a chryfder y cyhyrau leihau. Ni allwch bellach ddathlu “enillion bach” eich cynnydd PhD gyda phaned braf o de a bisged digestive. Mae lefelau estrogen isel yn effeithio ar y galon, a symptom menopos cyffredin yw curiadau’r galon afreolus. Gellir teimlo’r rhain fel curiadau calon cyflym, afreolaidd, a all gael eu gwaethygu gan straen. Felly, er bod cyfarfodydd goruchwylio a vivas yn straen i bob myfyriwr PhD, ailystyriwch eu heffaith ar fenyw sy’n mynd trwy’r menopos. Gall sefyllfaoedd llawn straen deimlo fel trên cludo nwyddau yn llosgi, yn curo ar draws eich brest ac i fyny at dop eich pen, gan gylchu o gwmpas ac o gwmpas nes bod y tân yn diffodd. O ie, a pheidiwch ag anghofio’r amrywiad hwyliau hormonaidd hynny. Un funud, rydych chi ar ben y byd, y funud nesaf, mae’r syndrom dynwaredwr yn cychwyn. Sut gallwch chi lwyddo yn y PhD hwn? Rydych chi’n rhy hen, yn rhy dwp, yn rhy flinedig, yn rhy emosiynol.

Defnyddir sawl trosiad i ddisgrifio profiadau menopos, megis “meddwl pŵl” a “phyliau o wres”. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw bod pwy bynnag a alwodd y llanast triog clymog hwn o wybyddiaeth y menopos yn “feddwl pŵl” a thân rhuadwy sy’n llosgi trwy’ch organau ac ar draws eich croen yn “byliau o wres”, maent ychydig yn wallgof (yn hurt bost).

Mae’r niwronau menopos felltith hynny yn mwynhau ychydig o “rialtwch” wrth wneud llanast o’ch cof. Dw i’n aml yn cerdded i mewn i ystafelloedd ac yn anghofio pam fy mod yno. Dw i’n aml yn colli fy mhin ysgrifennu/gliniadur/ffôn, a dw i’n hollol bendant fy mod wedi eu rhoi i lawr fan acw! Dw i’n edrych am fy sbectol, sydd bob amser ar ben fy mhen, ond er gwaetha’r ffaith fy mod yn gwybod hynny, dw i’n dal i chwilio amdani ar draws y tŷ/campws/llyfrgell/car. Dw i’n deffro ganol nos ac yn methu â dychwelyd i gysgu oherwydd bod y niwronau felltith hynny wrthi eto, yn gwneud jig, yn sgriblo ar hap ar hyd y bwrdd du hwnnw y gwnaethant ei rwbio allan yn flaenorol gyda stwff fel, a brynoch chi laeth? Oes angen llaeth arnoch chi? Sut olwg sydd ar wartheg godro? Ydyn nhw’n hapus? Ydy hi’n bryd codi eto? Byddai’n ddefnyddiol pe gallai fy niwronau menopos fynd i’r afael â phynciau hanfodol fel heddwch y byd yn hytrach na faint o smotiau sydd gan fuwch odro, ond dyna ni.

I lawer o fenywod, mae bod yn ganol oed a mynd trwy’r menopos hefyd yn dod gyda phethau diangen eraill. Mae canol oed yn gyfnod hollbwysig ym mywyd pawb, boed yn wryw neu’n fenyw, yn ystod y menopos ai peidio. Yn nodweddiadol mae’n amser i jyglo cyfrifoldebau gofalu am blant gyda rhai rhieni sy’n heneiddio ochr yn ochr â’r straen logistaidd ychwanegol a ddaw yn ei sgil. Mae canol oed hefyd yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn amser i bwyso a mesur, yn gyfnod o atgyfnerthu yn hytrach na thwf. Felly, efallai fy mod yn ganol oed, ac efallai fy mod ynghanol y menopos. Pan ofynnwch gwestiwn i mi, efallai y byddaf yn mynd fel coelcerth yn llosgi neu fwrdd du gwag. Efallai y byddaf yn colli fy sbectol, pin ysgrifennu, neu’r plot yn ddyddiol. Efallai na fyddwn i wedi cysgu yn hir iawn neithiwr. Ond yr hyn sydd gen i yw’r fraint fawr o wneud PhD. Mae gen i gyfle i gael fy herio’n academaidd. Dw i’n rhyngweithio ac yn cwrdd â llawer o ymchwilwyr ac academyddion deallus sy’n archwilio pynciau hynod ddiddorol. Felly, efallai bod fy niwronau menopos yn greaduriaid bach melltithiol, ond maen nhw’n aml yn dathlu gyda mi pa mor lwcus dw i’n teimlo i fod ar y daith PhD hon. Dw i bron ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf. Felly, dw i am i chi ddychmygu fy niwronau menopos wedi’u gwisgo fel John Travolta yn canu’r clasur Bee Gees “Staying Alive” oherwydd yn hytrach nag arafu, dw i’n cyflymu ac yn edrych ymlaen at lusgo fy niwronau menopos gyda mi ar y daith.