Mae tystiolaeth gadarn bod ymchwilwyr doethurol yn adrodd am lefelau uwch o straen a’u bod mewn risguwch o salwch meddwl o gymharu â myfyrwyr israddedig a data normadol poblogaeth gyfan. Mae llawer o waith wedi’i wneud o fewn y sector i gynnig ymyriadau cynnar ac adnoddau i helpu i atal hyn. Mae LlesiantYmchwilydd Cymru yn un adnodd o’r fath sydd â’r nod o feithrin ymdeimlad o lesiant iach ymhlith y boblogaeth hon.
BYDDWCH YN YMWYBODOL nad yw Llesiant Ymchwilydd Cymruyn cymryd lle’r gwasanaethau llesiant a/neu gynghori canolog yn eich prifysgol. Os ydych yn cael problemau sydd angen eu cymorth, cysylltwch â nhw yma: