Mae grwpiau cymunedol yn adnodd pwysig i helpu i gefnogi eich bywyd.

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar ar draws Cymru wedi sefydlu nifer o grwpiau cymunedol sy’n croesawu myfyrwyr ymchwil o holl brifysgolion Cymru. Gall y grwpiau hyn ganolbwyntio ar bwnc neu fod yn gysylltiedig â phrofiad bywyd penodol. Cymerwch olwg ar yr adnoddau cymunedol a restrir yn yr adran hon i weld a oes unrhyw grwpiau yr hoffech ymuno â nhw! 

Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru bob amser yn awyddus i glywed am grwpiau cymunedol eraill sy’n cael eu sefydlu i gefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Felly os hoffech i’ch grŵp gael ei restru yma, cysylltwch â’r Athro Matthew Jarvis, ar maj52@aber.ac.uk, gyda disgrifiad, person cyswllt ac amserlen cyfarfod.

Sylwch y bydd angen cyfeiriad e-bost ‘ac.uk’ gan Brifysgol yng Nghymru er mwyn gallu ymuno â’r grwpiau hyn.