Mae Chadaphorn ‘Som’ Punkumkerd yn fyfyriwr PhD blwyddyn olaf mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe lle mae ei hymchwil yn cael ei ariannu gan yr EPSRC (DTP UKRI). Cafodd ei geni a’i magu yng Ngwlad Thai, cyn symud i Abertawe ar gyfer ei hastudiaethau.
“Cyrhaeddais Abertawe am y tro cyntaf ym mis Hydref 2021. Roedd yn anodd iawn, ac roeddwn yn cario llawer o feichiau. Ond fy unig nod oedd gorffen fy ngradd ac yna dilyn fy mreuddwyd o ddod yn ddarlithydd mewn prifysgol.”
Fy nhrefn ddyddiol
“Dw i fel arfer yn gweithio o gartref gan mai ymchwil 100% yw fy nghwrs. Dw i’n dechrau bob dydd trwy ddeffro’n gynnar, rhwng 6am a 7am, ac yna dw i’n coginio brecwast mawr. Ar ôl hyn, dw i’n mynd yn ôl i fy ystafell i agor fy nghyfrifiadur a gwirio fy e-byst. Weithiau byddaf yn galw fy nheulu yng Ngwlad Thai, ac os bydd hi’n heulog, af i redeg. Er fy lles, dw i’n mwynhau rhedeg a bwyta’n iach.”
Beth rydw i’n ei wneud i ymlacio
“I ymlacio, dw i’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth a gwylio cyfweliadau. Dw i’n gwneud hyn i gael seibiant o’m hymchwil. Dw i hefyd yn mwynhau rhoi cynnig ar fwydydd newydd ac ymweld ag atyniadau twristaidd. Credaf fod cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn bwysig. Ni allwch ennill gormod heb roi, ac ni allwch roi heb ildio rhywbeth. Dw i’n dychwelyd i Wlad Thai, fy ngwlad enedigol, bob 3 mis. Dw i’n teimlo pan fyddaf yn mynd adref, y gallaf ailwefru fy ‘matri bywyd’, felly pan fyddaf yn dychwelyd i Abertawe, dw i’n teimlo’n llawn egni ac yn barod i fynd eto!”
“Ar wahân i hyn, rwyf wedi cael y cyfle i fynychu a chymryd rhan mewn cynadleddau yn y DU a thramor. Dw i hefyd yn manteisio ar fynychu seminarau a gweithdai sy’n cael eu trefnu gan fy mhrifysgol.”
Ychydig o gyngor
“Fy nghyngor i fyddai efallai y bydd angen i chi wisgo llawer o hetiau ar yr un pryd yn eich bywyd. Y prif bwynt yw pan fyddwch chi’n gwisgo’r hetiau, ceisiwch ganolbwyntio, a cheisiwch eich gorau. I mi, bod yn ddisgybledig yw’r allwedd.”
“Dyma bedwar llun ohonof yn gwisgo hetiau gwahanol:
1. Paratoi i fynychu Colocwiwm yng Ngregynog. 2. Cyflwyno poster o fy ymchwil yn Taliesin.
3. Ym Mae Rhosili a 4. Cyn rhedeg Marathon Abertawe.