Gall fod yn demtasiwn i barhau i weithio a gweithio pan fyddwch chi’n gwneud doethuriaeth. Er ei fod yn anochel weithiau, nid yw hyn yn gynaliadwy a gall achosi gorflinder, diffyg cymhelliant a gwaith o ansawdd is.

Cymerwch seibiant o bryd i'w gilydd a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal patrymau cysgu iach. Ymdrinnir â strategaethau cysgu yn ardal Strategaethau Llesiant Cyffredinol y wefan hon.

Nid yw gweithio oriau hir o reidrwydd yn cynyddu eich cynhyrchiant. Darganfyddwch fwy trwy adolygu'r adran hon ar The Wellbeing Thesis.

Un ffordd o sicrhau nad ydych yn gorweithio yw trefnu seibiannau bob wythnos: peidiwch â gadael ‘amser segur’ i siawns. Esbonnir pwysigrwydd ‘Predictable Time Off’ yn fanylach yma.

Mae Alex, ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Stanford, yn sôn am nad oes angen gweithio'r oriau hir sy'n cael eu normaleiddio'n aml yn ystod astudiaeth ddoethurol. Mewn gwirionedd, mae cymryd ‘amser segur’ yn ffordd fwy iach a chynhyrchiol o weithio. Gwrandewch arno yn trafod y mater hwn yn y podlediad hwn.