Byth yn rhy hen
Yn Avenue Q, sef y parodi o Sesame Street i oedolion, mae’r oedolion ifanc sy’n brif gymeriadau yn canu’n hiraethus am adael eu swyddi a dychwelyd i’r coleg. Mae’r llinell olaf alarus wedi aros yn fy nghof: “I’d walk through the quad and think, Oh my God. These kids are so much younger than me.”
Alla i ddim dweud celwydd a honni nad oedd mwynhau’r profiad o fod mewn prifysgol unwaith eto’n rhan o fy rheswm dros astudio ar gyfer doethuriaeth. Fel sy’n wir am lawer o fyfyrwyr ôl-raddedig, roeddwn wedi rhoi’r gorau i astudio am gyfnod – ac mewn gwirionedd, roedd y cyfnod hwnnw’n hirach nag yr oeddwn wedi bwriadu iddo fod – ac roeddwn yn gweld colli’r profiad o fod mewn amgylchedd myfyrwyr. Mae prifysgolion yn fannau gwych i gwrdd â phobl o bob cefndir, na fyddech yn aml yn cael cyfle i ryngweithio â nhw mewn meysydd eraill.
Ond roedd y geiriau hynny o Avenue Q yn dal yn fy mhen wrth i fi baratoi i symud i gampws. Roedd arna i ofn mai fi fyddai’r hen ddyn rhyfedd a oedd yn byw ar y campws gyda phlant o’i amgylch. Roedd arna i ofn ymuno â chymdeithasau rhag ofn y byddwn bron ddegawd yn hŷn na gweddill yr aelodau. Roedd arna i ofn mai fi fyddai’r dyn a oedd yn gwrthod derbyn ei fod yn mynd yn hŷn ac a oedd yn ceisio osgoi bod yn oedolyn.
Rwy’n sylweddoli erbyn hyn nad oedd unrhyw sail i’r ofn hwnnw, ac y dylai’r ofn fod wedi bod yn un di-sail o’r cychwyn. Pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig, roeddwn yn adnabod digon o bobl tua’r un oed â fi a oedd ar fy nghwrs ac yn y cymdeithasau yr oeddwn yn ymuno â nhw. Mae prifysgolion bob amser wedi darparu nid yn unig ar gyfer pobl ifanc deunaw oed sydd newydd adael y chweched dosbarth ond hefyd ar gyfer pobl o bob oed sydd wedi cael pob math o brofiadau. Felly, os yw hynny’n rhywbeth sy’n eich atal rhag mynd i brifysgol, peidiwch â phoeni eich bod yn rhy hen i fod yn rhan o’r gymuned o fyfyrwyr. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn unig, fe wnes i gwrdd â phobl o bob oed – o rai a oedd yn eu hugeiniau cynnar i rai a oedd yn eu chwedegau – y mae pob un ohonynt wedi medru dod o hyd i gymuned yn y corff o fyfyrwyr.
Wrth gwrs, efallai nad hon yw’r gymuned a oedd gen i pan oeddwn yn ddeunaw oed – ond, a dweud y gwir, mae hynny’n wych o beth. Doeddwn i ddim yn rhy hoff o’r gymuned honno pan oeddwn yn ddeunaw! Nid ceisio mynd yn ôl i flynyddoedd fy ieuenctid oedd fy mwriad wrth ymuno â gweithgareddau myfyrwyr fel myfyriwr doethuriaeth. Fy mwriad, yn hytrach, oedd mwynhau cwmni’r amrywiaeth eang o bobl sy’n creu prifysgol. A d’ych chi byth yn rhy hen i wneud hynny.