Cyfeillgarwch ar-lein
Un o bleserau mawr bod yn fyfyriwr prifysgol yw’r gallu i gwrdd â phobl newydd o bob cefndir. Tra byddwch yn y brifysgol, byddwch yn cwrdd â phobl o amrywiaeth eang o leoedd, nid yn unig o’ch gwlad eich hun ond o bob cwr o’r byd. Er mor wych yw hynny, mae yna un broblem fach wrth gwrs. Dyw bywyd prifysgol ddim yn para am byth, ac yn union fel y daeth yr holl bobl yna ynghyd i astudio, maent yr un mor debygol o adael a gwasgaru ar draws y byd unwaith eto. Yn sydyn iawn, mae ffrindiau y byddech yn eu gweld bob dydd i gael paned yn byw mewn cyfandir arall. Felly, sut mae cynnal y cyfeillgarwch hwn?
Gydag anhawster mawr, rwy’n ofni. Mae cadw mewn cysylltiad â phobl sydd hyd yn oed mewn dinas wahanol yn ddigon anodd. Un broblem i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yw’r llwyth gwaith. Rydych yn rhoi cymaint o’ch amser nid yn unig i waith sy’n drwm yn feddyliol ond hefyd i waith sy’n aml yn golygu llawer o ohebu. Gall mynd allan gyda ffrindiau fod yn newid braf o hynny, ond os ydych yn cyfnewid negeseuon ebost neu negeseuon testun â ffrindiau o bell, gall deimlo’n debyg iawn i’ch gwaith. At hynny, mae’r ffaith mai anaml y byddwch yn cyfathrebu â’ch gilydd yn gallu ei gwneud yn arbennig o anodd cynnal sgyrsiau ystyrlon.
Does dim ateb hawdd i hyn – ond gallaf sôn wrthych am yr hyn sydd wedi bod fwyaf effeithiol o’m profiad i. Y cyngor gorau y byddwn i’n ei roi yw ceisio dod o hyd i reswm dros gysylltu â ffrind yn rheolaidd. Efallai y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dweud bod angen iddo fod yn rhywbeth sy’n digwydd yn naturiol, ac er mor dda yw hynny, mae gen i awtistiaeth ac o ganlyniad rwy’n tueddu i fod yn eithaf di-lol am bethau. Os na fydd rhywbeth yn digwydd yn naturiol, beth sydd o’i le ar fynd allan o’ch ffordd i wneud iddo ddigwydd? Gall fod mor syml â defnyddio gêm ar-lein yr ydych yn ei chwarae gyda’ch gilydd, neu raglen deledu yr ydych yn ei gwylio. Byddwn yn eich cynghori i ddod o hyd i wahanol bethau ar gyfer eich ffrindiau neu’ch grwpiau o ffrindiau amrywiol. Drwy wneud hynny, rydych nid yn unig yn osgoi mynd i batrwm o ddal i fyny am gyfnodau byr ac anfynych ond hefyd yn gwneud i berson deimlo’n rhan arbennig o’ch bywyd. Yn hytrach na bod yn hen ffrind a symudodd i ffwrdd, dyma’r person yr ydych yn sôn wrtho am yr hyn yr ydych wrthi’n ei ddarllen, neu’n rhannu cymhelliant ag ef i gadw’n heini, neu’n chwarae gêm DND ag ef. Mae’n gwneud y person yn rhan o’ch bywyd unwaith eto, hyd yn oed os ychydig o weithiau’r flwyddyn y byddwch yn llwyddo i gysylltu â’ch gilydd.