Dod yn rhan o’r gymuned
Mae statws myfyriwr doethuriaeth mewn prifysgol yn un rhyfedd. Rydych yn fyfyriwr yn bennaf, ond yn fyfyriwr sydd y tu allan i brif systemau’r brifysgol. Hwyrach fod gennych nifer gyfyngedig o fodiwlau ond, o’m profiad i o leiaf, mae’r rheini yn fyr ac yn aml iawn yn cael eu dilyn o bell. Ar wahân i hynny, mae gwaith myfyriwr doethuriaeth yn waith unig, yn enwedig i bobl fel fi sy’n cyflawni prosiect ym maes y dyniaethau.
Gan amlaf, byddaf yn treulio fy nyddiau yn y llyfrgell yn pori drwy lyfrau ac yn ysgrifennu nodiadau, a’r unig gyswllt gofynnol gan fy nghwrs yw’r angen i gwrdd â fy ngoruchwylwyr o bryd i’w gilydd. Oherwydd hynny, mae’n hawdd iawn teimlo diffyg cysylltiad â’r profiad o fod yn fyfyriwr. Bydd rhai yn berffaith hapus â hynny, ac efallai yn gwerthfawrogi hynny mewn gwirionedd. Ond nid dyna’r oeddwn i’n ei ddymuno. I fi roedd bod mewn prifysgol yn gyfle arall i gwrdd â phobl newydd, ac os na fyddai fy nghwrs yn darparu ar gyfer hynny byddai’n rhaid i fi ddod o hyd i ffordd o wneud hynny fy hun.
Yn gyntaf, penderfynais fyw ar y campws. Nid oedd yn benderfyniad hawdd o gwbl. Fy mhrif ffynhonnell o arian yw’r benthyciad gan y llywodraeth i fyfyrwyr doethuriaeth, nad yw’n ddigon bron iawn i dalu am lety a ffïoedd y brifysgol. Er hynny, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig i fi fod yn y brifysgol yn bersonol er mwyn gallu rhyngweithio’n uniongyrchol â gweddill y myfyrwyr. Daeth mantais gyntaf hynny’n amlwg yn syth. Roeddwn wedi bod yn poeni am symud i lety y byddwn yn ei rannu ag eraill. Doedd fy mhrofiad o hynny fel myfyrwyr israddedig ddim wedi bod yn un da iawn, ac felly roeddwn yn poeni’n gyson y byddwn yn byw gyda grŵp o fyfyrwyr israddedig a fyddai bron ddegawd yn iau na fi. Yn ffodus, ni ddigwyddodd hynny. Roeddwn yn byw gyda grŵp o fyfyrwyr gradd meistr yr oedd pob un ohonynt tua’r un oed â fi. O’r fan hon, roedd gen i gysylltiad yn syth â gweddill y corff o fyfyrwyr, a chyfle i wneud pethau cymdeithasol gyda phobl eraill.
Heb os, mae fy newis o brifysgol wedi bod o help o ran hynny hefyd. Roeddwn yn fyfyriwr israddedig mewn prifysgol yn Llundain, nad oedd ganddi gampws a lle’r oedd y myfyrwyr ar wasgar ar draws y ddinas. Yn Aberystwyth, mae’r corff o fyfyrwyr wedi’i wreiddio mor bendant yn y brifysgol a’r dref fel ei bod bron yn anodd osgoi bod yn rhan ohono. Mae cysylltiadau bach yn arwain yn sydyn at gysylltiadau eraill, a thrwy ddilyn y llinynnau hyn gallwch ddod i adnabod y dref gyfan yn fuan iawn. Dydw i ddim yn credu fy mod yn barod ar gyfer hynny eto! Ond mae wedi bod yn braf gweld bod yna le i fi yma. Wrth gyrraedd, roeddwn yn poeni y byddwn wastad ar y cyrion, ond rwyf wedi gweld yn fuan bod modd i fi fod yn rhan o’r gymuned hon.