Teuluoedd

Pan fyddwn yn siarad am gymuned uwchraddedig, rydym yn aml yn canolbwyntio ar y brifysgol yn unig. I lawer ohonom, dyma fydd y prif le rhyngweithio yn ystod ein taith ymchwil. Ond nid dyma’r unig le rydyn ni’n cael cefnogaeth. Gall teulu, mewn sawl ffordd, fod yr un mor bwysig wrth gynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn ystod cyfnodau sy’n peri straen wrth gynnal gwaith ymchwil.

Rydym eisoes wedi siarad am ba mor ynysig y gall ymchwil uwchraddedig fod, ac i mi, mae cynnal cysylltiad â fy nheulu wedi bod yn rhan bwysig o drechu hynny. Rwy’n wreiddiol o Swydd Efrog, a dyna lle mae fy rhieni a’m brodyr a chwiorydd yn dal i fyw. Bydd llawer sydd wedi astudio yn Aberystwyth yn gwybod nad dyma’r lle hawsaf i deithio iddo ac oddi yno (!!), ac mae hyn ddwywaith mor wir mewn perthynas â fy nhref enedigol. Mae teithio yn ôl yno o Aber yn cymryd diwrnod cyfan, ac felly nid yw’n rhywbeth y gallaf ei wneud ar fympwy. Nid dyma’r tro cyntaf i mi fyw oddi cartref; ond erbyn i mi ddechrau ar fy PhD, roedd bron i bum mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf imi fyw i ffwrdd o Swydd Efrog – ac yn ystod y pum mlynedd hynny, roedd Covid wedi fy atal rhag symud o gartref fy nheulu.

Nid oedd hyn yn annymunol ac, yn sicr, roedd yn well na’r dewis arall o fyw ar fy mhen fy hun mewn fflat stiwdio. Ond fe wnaeth i mi ddod i arfer â byw mewn gofod lle’r oedd gen i bob amser bobl o’m cwmpas. Roedd gadael hynny eto yn syniad brawychus – ond roedd hefyd yn rhan anochel o symud ymlaen gyda fy mywyd. Eto i gyd, gwn fod angen i mi, yn bersonol, gadw cysylltiad â fy nheulu. Mae galwadau rheolaidd gyda fy rhieni yn helpu i gadw fy nhraed ar y ddaear ac yn fy ngorfodi i siarad â phobl yn rheolaidd. Rwy’n gweld bod y sgyrsiau hyn, yn fwy nag unrhyw rai eraill, yn fy helpu i gael persbectif ar ble rydw i. Gall fod yn hawdd colli golwg ar gynnydd pan rydych chi’n boddi mewn gwaith ymchwil heb ddiwedd mewn golwg.  Mae hefyd yn hawdd colli golwg ar faint rydych chi eisoes wedi’i gyflawni pan fyddwch chi wedi eich amgylchynu gan bobl sydd naill ai wedi mynd heibio lle rydych chi ers amser maith, neu sydd ar union yr un daith.

Mae cynnal fy mherthynas gyda fy nheulu yn help mawr i mi gyda dau beth: rhoi lle rydw i ar fy nhaith PhD mewn cyd-destun ehangach, a gweld y tu hwnt i gylch cyfyng y byd academaidd.