Ymdopi ag unigrwydd

Er bod sôn cyson am gymuned o ôl-raddedigion, bydd cyfnodau pan na fyddwch chi’n gallu dod o hyd i gymuned. Bydd hyd yn oed y mwyaf cymdeithasol ohonom ar adegau yn darganfod nad oes neb ar gael i dreulio amser gyda nhw. Gall hyn weithiau fod yn anodd. Rydw i’n berson sydd angen treulio amser ar ben fy hun, ond er hynny rwy’n gallu teimlo’n ynysig ac unig. Rydyn ni wedi bod yn siarad am sut y gallen ni geisio datrys y problemau hyn. Ond beth am pan nad oes modd datrys y broblem? Sut ydyn ni’n ymdopi â bod ar ein pen ein hunain?

Yr ateb cyflym yw bod hyn yn dibynnu’n rhannol ar y person dan sylw – ond rydw i’n gwybod fod hynny’n ddiflas a ddim yn llawer o help! Mae’r pethau rydw i’n mynd i’w hawgrymu yn y darn hwn yn help i mi’n bersonol a dyna’r gorau y gallaf ei wneud, a dweud y gwir. Ond rwy’n gobeithio y gall y rhain o leiaf roi syniadau i bobl ar sut y gallen nhw fynd i’r afael ag unigrwydd.

Y peth cyntaf sydd yn rhaid ichi ei gofio yw ei bod hi’n iawn ichi fod ar eich pen eich hun. Y peth gwaethaf am fod ar ben eich hun o bosib yw’r pryder a ddaw o ganlyniad: rydyn ni’n creu darlun yn ein meddyliau o bawb arall yn mwynhau gyda’i gilydd wrth inni orfod dioddef ar ein pen ein hunain. Nid yw’r darlun hwn yn wir, wrth gwrs – neu o leiaf nid dyma’r achos bob tro. Efallai y bydd rhai pobl allan yn cael hwyl, ma hynny’n wir, ond nid dyma yw sefyllfa pawb bob amser. Rhan naturiol o fywyd yw’r adegau o dro i dro pan nad oes neb yn medru treulio amser gyda ni ac felly ein bod ar ben ein hunain. Ni ddylem ni deimlo fel bod rhywbeth o’i le gyda ni. Nid eich bai chi yw hi – ac ni fydd yr adegau hynny yn para am byth.

Nawr, wedi inni gofio hynny, sut mae modd inni ymdopi â chyfnod o unigrwydd mewn gwirionedd? Efallai fod y datganiadau cadarnhaol hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’r rheini’n eich helpu i lenwi’r holl oriau. Rhaid cyfaddef fod sefyllfa pawb yn wahanol, ond yr argymhelliad gorau yn fy marn i yw gwneud y pethau nad oes neb arall eisiau eu gwneud ond rydych chi’n eu caru. Gwyliwch y sioe deledu honno nad oes yr un o’ch ffrindiau yn ei hoffi. Ewch ati i chwarae gêm gyfrifiadurol sydd ar gyfer un chwaraewr. Ewch ar y daith gerdded honno pan nad oes modd perswadio neb i ddod gyda chi. Gwnewch yr amser pan fyddwch ar eich pen eich hun yn amser arbennig i chi’ch hunan a gall yr amser hynny ddod yn rhywbeth rydych chi’n ei werthfawrogi yn hytrach nag amser sy’n codi ofn arnoch.