Bydd gennych chi a’ch goruchwylydd/goruchwylwyr ddisgwyliadau am eich astudiaethau doethurol. Mae pob prosiect yn wahanol felly bydd disgwyliadau yn amrywio llawer. Er y gall deimlo fel sgwrs ychydig yn rhyfedd i’w chael gyda’ch goruchwylydd, mae ymchwil wedi amlygu pwysigrwydd cyfathrebu cyfrifoldebau, disgwyliadau a rolau mewn perthynas â’ch doethuriaeth yn benodol.