Mae ymdrechu am berffeithrwydd yn gyffredin ymysg carfannau doethurol. Er y gall fod yn beth da cael safonau uchel ac eisiau gweithio i’ch potensial llawn, gall hefyd arwain at y teimlad nad yw eich gwaith byth yn ‘ddigon da’. Pan fo perffeithrwydd yn gamaddasol gall arwain at ansawdd bywyd is, llesiant meddyliol gwaeth a gweithredu cymdeithasol gwaeth.