Rhwydweithiau cymorth proffesiynol yw’r rhwydweithiau rydych chi’n eu hadeiladu gyda chydweithwyr neu weithwyr proffesiynol eraill yn eich maes pwnc. Gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyfleoedd dysgu, cydweithio a chyflogaeth. Gall cysylltu ag ymchwilwyr doethurol eraill hefyd eich galluogi i rannu profiadau a theimlo’n llai unig ar eich taith. 

video resource

Yn y ddau fideo hyn, mae myfyrwyr doethurol yn sôn am bwysigrwydd adeiladu rhwydweithiau cymorth proffesiynol.

video resource

Cliciwch ar y ddelwedd fideo i weld yr ail fideo.

Felly sut gallwch chi wneud hyn? Mae'r erthygl hon yn ymdrin â rhai gwahanol ffyrdd o ddechrau adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol, megis mynychu cynadleddau, e-bostio awduron ac ymuno â gweminarau neu fforymau.

Mae ein teilsen ‘Cymunedau’ yn darparu cyfleoedd i ymuno â rhwydweithiau ag ymchwilwyr doethurol eraill o Gymru.