Gall myfyrio ar eich cyflawniadau a’ch cynnydd fod yn ffordd wirioneddol bwerus o helpu i aros yn bositif drwy gydol eich astudiaethau. 

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dathlu eich buddugoliaethau a rhannwch eich llwyddiannau gyda ffrindiau a theulu.

Mae Allan, Uwch-ddarlithydd ac athro myfyrio, yn siarad am sut i greu eiliadau o fyfyrio yn eich bywyd academaidd a phersonol. Ei gyngor gwych yw ‘dechreuwch nawr’.

I'ch helpu i ddechrau nawr, dyma bum ymarfer cyflym i hwyluso myfyrio a hybu eich lles. Dewiswch un i roi cynnig arno dros gyfnod o wythnos: mae ymchwil yn awgrymu y byddwch chi'n teimlo'n fwy cadarnhaol.