Ysgwyd y Syndrom Dynwaredwr
Gall cynnal iechyd meddwl da yn ystod PhD fod yn her. Mae Simone, myfyriwr ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Troseddeg, yn siarad am ei hawgrymiadau gwych ar gyfer cael gwared â’r Syndrom Dynwaredwr a rheoli llesiant.
“Gofynnwch i unrhyw fyfyriwr PhD ac mae’n debygol y byddan nhw’n cyfaddef eu bod yn dioddef o syndrom dynwaredwr o leiaf unwaith yn ystod y daith ddoethurol.
“I mi, fe darodd ym mlwyddyn gyntaf fy PhD. Doeddwn i ddim yn teimlo’n ddigon academaidd ac mae hynny’n rhywbeth rydych chi’n dueddol o’i fewnoli yn hytrach na’i leisio.
“Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y defnydd o fforensig digidol wrth ymchwilio ac erlyn ymchwiliadau i droseddau mawr yng Nghymru a Lloegr. Cyn dechrau fy PhD, treuliais 18 mlynedd yn gweithio fel ymarferydd ac uwch reolwr yn y system cyfiawnder troseddol. Yn dod o yrfa heriol, gwyddwn ei bod hi’n hollol normal teimlo fel hyn mewn sefyllfaoedd newydd a llawn straen. Roedd cofio’r holl adegau roeddwn i wedi teimlo fel hyn o’r blaen (a phan roedd popeth wedi troi allan yn iawn) wedi fy helpu i reoli’r pryder sy’n cyd-fynd â syndrom dynwaredwr a symud ymlaen ohono.
“Dw i wedi bod yn ymwybodol iawn o hyn yn fy rôl fel cynrychiolydd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, ac yn atgoffa myfyrwyr ymchwil newydd y gall cymorth cymheiriaid a siarad â’ch tîm goruchwylio eich helpu i gael gwared ar y bwgan o syndrom dynwaredwr!
“Gall Syndrom Dynwaredwr eich taro mewn unrhyw rôl, mewn unrhyw swydd ac mewn unrhyw faes bywyd. Dw i’n cofio fy hunan yn 22 oed yn gweithio gyda defnyddiwr cyffuriau anhrefnus, addysgedig a fyddai’n ceisio ysgwyd fy hyder mewn unrhyw ffordd y gallai drwy gwestiynu fy oedran, pam roeddwn yn fy rôl a pha brofiad a gefais.
“Dywedodd swyddog prawf doeth a phrofiadol wrthyf: “Does dim rhaid i chi gyfiawnhau pam eich bod chi yma na sut y cyrhaeddoch chi yma. Yr unig beth sy’n bwysig yw eich bod chi yma ac rydych chi’n haeddu bod yma.” Mae hynny’n rhywbeth rydw i wedi’i gofleidio dros y blynyddoedd, ac wedi’i drosglwyddo i eraill sy’n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg.
Mae rheoli eich iechyd meddwl trwy gydol PhD yn bwysig gan fod cymaint o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Dw i’n cymryd seibiannau rheolaidd o’r ymchwil, yn cerdded gyda’m Labradors du gwallgof, yn treulio amser gyda theulu a ffrindiau ac yn gwylio rhaglenni Netflix cwbl anacademaidd!
Mae’n ymddangos mor rhyfedd i mi fy mod wedi ysgrifennu’r erthygl hon bron i ddwy flynedd yn ôl yn agos at ddechrau taith gradd doethur yr wyf bellach (croesi bysedd!) bron â chyrraedd ei diwedd. Yn ddiweddar, dw i wedi dychwelyd o gyflwyno rhai o ganfyddiadau fy ymchwil yn y Gynhadledd Troseddeg Ewropeaidd yn Fflorens. Eto, dyna frawddeg na fyddwn wedi dychmygu ei hysgrifennu ddwy flynedd yn ôl! Dw i wedi sylweddoli fy mod wedi dioddef gyda’r Syndrom Dynwaredwr trwy gydol fy ngradd doethur, bob tro roedd hi’n cymryd mwy o amser i mi gael pennod yn gywir, bob tro na allwn i ysgrifennu a bob tro, roeddwn i’n holi pa mor dda yw fy ngwaith mewn gwirionedd… Ydy fy syndrom dynwaredwr wedi mynd… Nac ydy… Ydw i’n meddwl y byddaf yn ei deimlo cyn i mi wneud fy VIVA… Ydw, heb os. Fodd bynnag, er gwaethaf cael trafferth gyda’r syndrom dynwaredwr, gallaf ddweud yn onest fy mod yn mwynhau’r daith gradd doethur hon ac er fy mod yn edrych ymlaen at ei orffen, dw i hefyd yn drist. Dw i wedi gwneud ffrindiau anhygoel ar hyd y ffordd, wedi cael profiadau a chyfleoedd gwych, ac wedi cael cefnogaeth trwy gydol y daith hon gan fy ngoruchwylwyr. Dw i wedi dysgu ychydig o bethau ar hyd y ffordd yr hoffwn eu rhannu gyda chi ac os yw hyn yn helpu un myfyriwr yn ystod ei daith gradd doethur i deimlo ychydig yn llai fel dynwaredwr, byddaf yn hapus.
Y Gwirionedd Cyffredinol am Fywyd Gradd Doethur
Peidiwch â disgwyl i’ch teulu neu’ch ffrindiau fod ag unrhyw syniad o’r hyn rydych chi’n ei wneud … byddan nhw’n falch ohonoch ac yn ddryslyd hefyd
Os ydych chi’n ysgrifennu orau mewn pyjamas gyda gwallt heb ei olchi – parhewch i wneud hynny, dyna’ch hawl!
Os oes dyddiau pan na allwch ysgrifennu – peidiwch â phoeni, fe fydd yna ddyddiau pan allwch chi wneud hynny
Peidiwch â beirniadu eich hun yn erbyn llinellau amser eich cymheiriaid, rydych ar eich taith eich hun a byddwch yn cyrraedd yno
Cymerwch amser i wneud yr hyn yr ydych yn ei garu, treuliwch amser gyda ffrindiau, teulu, cŵn, siopa, bwyta siocled, byddwch yn garedig â chi eich hun! Bydd eich ysgrifennu yno pan fyddwch yn dychwelyd
Byddwch yn onest am sut rydych yn teimlo, gyda’ch ffrindiau, gyda’ch goruchwylwyr ac yn bwysicaf oll gyda chi eich hun. Trwy gael yr awgrymiadau agored hyn, gallwn helpu eraill yn y gymuned gradd doethur i deimlo’n well amdanynt eu hunain a gwneud y baich syndrom dynwaredwr ychydig yn haws i’w gario.