Gall cynllunio’ch amser a strwythuro’ch llwyth gwaith ddod â nifer o fanteision i’ch llesiant a’ch allbwn gwaith. Gweithiwch i’ch cryfderau a pheidiwch ag ofni rhoi cynnig ar rywbeth newydd os nad yw’ch trefn bresennol yn gweithio. Mae’n bwysig gwybod ein bod ni i gyd yn gweithio’n wahanol ac nid oes unrhyw ffordd ‘gywir’ nac ‘anghywir’ o wneud doethuriaeth.

Efallai y bydd eich patrwm gweithio mwyaf cynhyrchiol yn wahanol i rai eraill a gall newid trwy gydol eich astudiaethau (neu hyd yn oed bob dydd!).